“Cyn inni ddechrau’r broses fabwysiadu, roeddwn i’n meddwl bod mabwysiadwyr yn rhyw fath o ‘rieni anhygoel’, ond sylweddolais yn fuan nad dyna beth mae’r gwasanaeth yn chwilio amdano. I fod yn fabwysiadwr, mae angen ichi allu darparu’r drefn ddyddiol, y sefydlogrwydd a’r amynedd y mae plentyn eu hangen.
“Rwy’n credu fy mod i’n meddwl wrth wneud yr alwad gyntaf i’r gwasanaeth y byddai llawer o bwysau arna’ i, ond maen nhw’n barod i fynd ar eich tempo chi pan mae angen.”
“Fe fydd y broses yn heriol ar adegau, ond mae’n angenrheidiol er mwyn eich paratoi ar gyfer cyrhaeddiad eich plentyn ac er mwyn rhoi amser ichi greu perthynas gyda nhw, yn ddigon tebyg i’r broses beichiogrwydd am wn i.
“Mae fy mhenwythnosau’n wahanol iawn i sut oedden nhw ers talwm, maen nhw’n fwy o hwyl o lawer! Fyddwch chi ddim yn gwbl siŵr os mai mabwysiadu yw’r peth i chi tan ichi ei wneud, felly fe fydden i’n annog unrhyw un sy’n meddwl am y peth i godi’r ffôn a dysgu mwy.”
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again