HYSBYSEB AM GYD-GADEIRYDD ANNIBYNNOL BWRDD LLYWODRAETHU AR Y CYD GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL CYMRU

 

 

GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL CYMRU

HYSBYSEB AM GYD-GADEIRYDD ANNIBYNNOL

BWRDD LLYWODRAETHU AR Y CYD

GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL CYMRU

Mae cyfle cyffrous wedi codi i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyfeirio a llywodraethu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC) hynod lwyddiannus Cymru.

Mae'r gwasanaeth yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan unigolion â phrofiad addas sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y rôl fel Cyd-gadeirydd Annibynnol[1] Bwrdd Llywodraethu ar y Cyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a chwarae rôl wrth lywio’r GMC i'r cam nesaf o ddarparu a datblygu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Mae'r cyd-gadeirydd presennol yn ymddeol, ar ôl bod yn y rôl ers sefydlu’r GMC yn 2014.

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru yn fenter wirioneddol gydweithredol, gyda’r sector statudol a’r sector wirfoddol yn cydweithio i wella bywydau plant mewn teuluoedd mabwysiadol yn ogystal â phobl eraill y mae mabwysiadu wedi effeithio arnynt. Cynrychiolir yr holl randdeiliaid allweddol ar y Bwrdd Llywodraethu ar y Cyd sy'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi’i addysgu i lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfwerth, ac yn meddu ar wybodaeth a phrofiad o oruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau mabwysiadu ar lefel uwch. Bydd y person llwyddiannus yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr a'r Cyd-gadeirydd arall (aelod o'r awdurdod lleol) i sicrhau bod y Bwrdd Llywodraethu ar y Cyd yn cyflawni ei swyddogaethau yn ogystal â chyflawni rolau cynrychioliadol eraill ar gyfer y GMC a mynychu cyfarfodydd eraill.

Bydd y penodiad am gyfnod penodol o dair blynedd gyda'r opsiwn i ymestyn am gyfnod o dair blynedd arall. Bydd y tâl yn £695 fesul cyfarfod y Bwrdd / diwrnod gan gynnwys paratoi cofnodion a’u gwirio ar ôl y cyfarfod. Telir y dyletswyddau a'r tasgau eraill ar gyfradd pro-rata sy'n gysylltiedig â'r gyfradd ddyddiol hon.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl am y rôl ar gael yn y Fanyleb Swydd. Bydd y Cyfarwyddwr yn hapus i drafod y rôl gyda phobl sydd â diddordeb. Cysylltwch â Suzanne Griffiths ar suzanne.griffiths@adoptcymru.com

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ewch i'n gwefan am ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf.

Cymraeg: National Adoption Service - Cyhoeddiadau (adoptcymru.com)

Saesneg: National Adoption Service - Publications (adoptcymru.com)

 

Manyleb Swydd


[1] Diffinnir 'annibynnol' yn y rheoliadau fel rhywun nad yw ar hyn o bryd o dan gontract o ran rheoli neu ddarparu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru, naill ai yn y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector, dan Gofrestr Fabwysiadu Cymru, neu'r Mecanwaith Adolygu Annibynnol.

 

 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again