Blog
Rhestr Fer Mabwysiadu: Awst 2021
17 Hydref 2024
Weithiau gall y llwybr at fabwysiadu fod yn un emosiynol, waeth beth fo’r amgylchiadau. Mae profiad pawb yn unigryw; wrth lwc, mae llawer o bobl yn barod i rannu eu profiad nhw, yn ogystal â llawer o awgrymiadau a thriciau maen nhw wedi’u dysgu ar hyd y ffordd. Hyd yn oed ar ôl cwblhau’r broses fabwysiadu, efallai y bydd adegau o hyd pan fydd angen tawelwch meddwl ac arweiniad arnoch i oresgyn yr heriau a allai ymddangos.
Isod rydym wedi llunio rhestr fer o rai o’r blogiau, podlediadau, llyfrau a chyfresi YouTube sy’n ymwneud â mabwysiadu ac sydd ar gael ar hyn o bryd – gobeithio y bydd yn eich cynorthwyo i dreulio llai o amser yn gwglo a mwy o amser yn creu atgofion arbennig gyda’ch teulu. Mae’r hanesion hyn yn eich helpu i weld sut mae mabwysiadwyr eraill wedi delio â’r heriau sydd wedi codi, yr hyn y gallech ei ddisgwyl yn ystod y broses a’ch sicrhau hefyd fod y meddyliau a’r teimladau rydych yn eu profi yn rhai cyffredin.
Dyma rai yn unig o’r blogiau a’r podlediadau a allai fod o ddiddordeb ichi os ydych chi’n meddwl am fabwysiadu, yn y broses o fabwysiadu plentyn neu hyd yn oed os ydych chi’n fabwysiadwr profiadol. Mae yna lawer o rai eraill ar gael a dim ond man cychwyn yw’r awgrymiadau hyn!
Truth be Told
Un o’r ffyrdd gorau o ddysgu am fabwysiadu yw clywed gan bobl sydd wedi mabwysiadu´n barod.
Mae ein podlediad chwe rhan yn dilyn taith fabwysiadu grŵp o wahanol fabwysiadwyr wrth iddyn nhw siarad am holl droeon eu taith bersonol, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y daith. Mae´n ymdrin â themâu allweddol fel y broses asesu a chymeradwyo, cael eich paru â phlentyn, y cyfarfod cychwynnol a’r oriau cyntaf hollbwysig, hyd at y gefnogaeth y bu ei hangen arnynt ers i’w plentyn gael ei leoli gyda nhw.
Mae’r podlediad hwn yn wych os ydych chi’n ystyried mabwysiadu, neu os ydych chi eisoes wedi mabwysiadu a dim ond eisiau clywed am brofiad pobl eraill.
Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol
Os ydych chi’n mabwysiadu yng Nghymru, mae’r adnoddau sydd ar gael ar wefannau asiantaethau mabwysiadu lleol yn llawn gwybodaeth a byddant yn o gymorth i chi lle bynnag rydych chi arni ar eich taith.
Pan fyddwch yn mabwysiadu yng Nghymru, byddwch chi naill ai’n gwneud cais i un o’n Hasiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol neu un o’r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’ch dewis personol. Mae gan bob gwasanaeth mabwysiadu ei wefan ei hun sy´n cynnig cymhorthion, adnoddau a chyngor defnyddiol.
Gan fod yr asiantaethau mabwysiadu lleol hyn yn rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, bydd y wybodaeth a welwch ar y gwefannau yn debyg a chaiff pob un ei diweddaru yn rheolaidd – byddant hefyd yn eich cyfeirio at adnoddau pellach a lle i fynd oes angen cymorth arnoch.
Yn ogystal â gwybodaeth ar-lein, mae’r asiantaethau mabwysiadu hefyd yn cynnal Nosweithiau Gwybodaeth lleol, ac maent wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych dros y ffôn.
Adopter Stories
Mae Adopter Stories yn trin a thrafod pynciau fel dod yn fabwysiadwr neu’n ofalwr maeth a beth i’w ddisgwyl wrth wneud eich ymholiad cyntaf, yr effaith y mae ffydd yn ei chael ar daith fabwysiadu, a mabwysiadu grwpiau o siblingiaid.
Mae pob pennod yn cael ei chyflwyno mewn ffordd gyfeillgar ac yn ymdrin â phwnc newydd, gan gyflwyno profiadau go iawn a gwahanol safbwyntiau mewn pytiau byr. Mae penodau’n amrywio o ran hyd – o rai byrrach 5 munud o hyd, i sgyrsiau dyfnach sy´n para 25 munud.
Mae´r penodau wedi eu targedu’n bennaf at bobl sydd eisoes yn ystyried mabwysiadu, ac yn ffordd wych o glywed am y nifer o wahanol resymau pam mae cyplau ac unigolion yn dewis mabwysiadu, a sut oedd y broses iddyn nhw.
Yn wahanol i´r podlediad Truth Be Told, mae’r podlediad hwn yn cynnig trafodaeth ar bynciau penodol ac yn ymdrin â thaith mabwysiadwr mewn un bennod – yn hytrach na rhannu’r broses gyfan ar draws cyfres.
Not Another Mummy Podcast
Yn un o brif bodlediadau rhianta’r DU, mae Alison Perry yn siarad â gwestai gwahanol bob wythnos i drafod heriau magu plant a phroblemau teuluol.
Mae’r podlediad hwn yn cynnig cymysgedd o safbwyntiau ac yn ymdrin â rhai pynciau mwy heriol fel siarad â’ch plentyn am hil, magu plentyn trawsryweddol, sefyllfa lle mae rhieni´n gwahanu a llawer mwy.
Byddwch yn sicr o ddod o hyd i rai pethau i gnoi cil drostyn nhw yn y gyfres podlediadau hon, yn ogystal â’r cysur o wybod nad chi yw’r unig un sy’n gorfod delio ag unrhyw un o’r heriau hyn.
Collecting the Diamonds
Awduron: Siobhan Rhodes, Sian Booth, Arlunydd: Lewis Foulstone, Cyhoeddwr: Create You Arts
Ar gael fel llyfr neu i’w gwylio fel cyfres YouTube – mae Collecting the Diamonds yn stori hardd a chrefftus gan ddwy chwaer fabwysiedig, Sian a Siobhan. Mae wedi’i llunio ar gyfer plant mabwysiedig ac mae´n stori hawdd ei dilyn sy’n cyflwyno teimladau cymhleth fel pryder ynghylch bwyd, amser gwely ac amser bath yn ogystal â heriau bob dydd eraill.
Mae’r llyfr yn dilyn stori Nua a’i rhieni mabwysiadol wrth iddynt wynebu rhai o’r heriau nodweddiadol sy’n wynebu plant sydd wedi profi trawma, ac yn cyflwyno strategaethau syml i helpu i oresgyn rhai o’r anawsterau hyn. Mae’r llyfr yn annog y cysyniad o ‘gasglu’r diemwntau’ – eiliadau arbennig y mae’r teulu cyfan yn eu rhannu, er mwyn cynnig anogaeth wrth ddelio ag unrhyw heriau newydd.
Er mai stori ddychmygol yw hon, ystyrir bod yr emosiynau a’r trawma a drafodir yn bethau real y gall plant mabwysiedig uniaethu â nhw.
The A-Z of Therapeutic Parenting
Awdur: Sarah Naish, Cyhoeddwr: Jessica Kingsley Publishers
Mae The A-Z of Therapeutic Parenting yn llyfr di-lol, hawdd ei ddeall sy’n canolbwyntio ar strategaethau.
Mae rhianta therapiwtig yn ddull magu plant sy’n canolbwyntio ar feithrin, ac yn un sy’n arbennig o effeithiol i blant sydd wedi profi trawma plentyndod ac sydd efallai’n dangos anawsterau ymlyniad. Gan amlinellu model ymyrryd a argymhellir yn eang yn y byd mabwysiadu, mae’r llyfr yn cynnig ymatebion effeithiol i rieni / rhoddwyr gofal i 60 o broblemau cyffredin sy’n wynebu llawer o blant mabwysiedig. Mae’n cynnwys anawsterau cysgu, ymddwyn yn ymosodol, cyngor ar yr hyn a allai sbarduno’r problemau hyn a sut i ymateb.
Mae’r llyfr hwn wedi’i adolygu gan fabwysiadwyr a therapyddion, a barnwyd y dylai pob rhiant therapiwtig ei ddarllen
No Matter What: An Adoptive Family’s Story of Hope, Love and Healing
Awdur: Sally Donovan, Cyhoeddwr: Jessica Kingsley Publishing
Mae ‘No Matter What’ gan Sally Donovan yn stori sydd yn ysbrydoli, hanes cwpl cyffredin sy’n adeiladu teulu anghyffredin. Mae’n dilyn Sally a Rob Donovan ar eu taith o’u diagnosis o anffrwythlondeb at wneud y penderfyniad i fabwysiadu. Mae’n olrhain y broses emosiynol o fabwysiadu’r pâr o siblingiaid y maent bellach yn rhieni arnynt ac o weithio trwy drawma gorffennol y plant gyda chymorth rhianta therapiwtig.
Sefydlodd Sally hefyd y sefydliad No Matter What sy’n cynnwys grŵp o weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o ofal maeth, mabwysiadu, gwaith cymdeithasol, gofal preswyl ac ymarfer therapiwtig. Maen nhw’n cynnal gweminarau hyfforddi a digwyddiadau i rieni yn ymdrin â rhianta therapiwtig, cefnogaeth fabwysiadu, cefnogaeth i rieni plant mabwysiedig sydd â gorffennol anodd, ac ati.
An Adoption Diary
Awdur: Maria James, Cyhoeddwr: CoramBAA
Mae’r hunangofiant teimladwy hwn gan Maria yn dilyn holl droeon canologol ac anodd y daith a’u harweiniodd at eu mab mabwysiedig newydd. Stori sy’n cyffwrdd â’r galon, a heb os, o werth pendant i unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu neu’r rhai sydd eisoes wedi cychwyn ar y daith. Ei nod yw helpu pobl i ddeall y profiadau da ac anodd sy’n rhan o fabwysiadu a gofal maeth trwy amrywiol brofiadau personol a theuluol.
Wedi’i chyhoeddi fel rhan o’r gyfres “Our Story”, mae hon yn stori hynod ddiddorol ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth am daith emosiynol teulu yn cwrdd â’u plentyn newydd ac yn tyfu gyda’i gilydd fel teulu. Mae’n disgrifio anawsterau a llawenydd y teulu yn onest ac yn darparu gwybodaeth hynod ddiddorol am y broses fabwysiadu.
Hefyd mae gennym yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ystod eang o’n hadnoddau ein hunain y gallwch eu defnyddio. Yn ogystal â gwybodaeth ar y wefan a’r podlediad mae ein pecyn adnoddau ein hunain wedi’i gynllunio i gynorthwyo unrhyw un sydd wedi cychwyn neu sydd eto i gychwyn ar eu taith fabwysiadu. Mae ein pecyn yn cynnwys nifer o ymarferion y gallwch eu gwneud ar eich pen eich hun neu gyda’ch partner i’ch helpu chi i feddwl am y broses fabwysiadu, magu plant mabwysiedig, rhianta therapiwtig a chymaint mwy. Mae hefyd yn cynnwys rhai gweithgareddau y gallwch eu gwneud i baratoi gan gynnwys hyfforddiant ar-lein, darllen a theledu / ffilmiau. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi, cofiwch y gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg dros y ffôn neu e-bost, byddem wrth ein bodd yn eich cefnogi ble bynnag yr ydych arni ar eich taith!