Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2014 yn fenter arloesol ar y cyd ar gyfer cynnig gwasanaethau mabwysiadu. Daeth â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru ynghyd i greu strwythur 3 haen sy'n cynnwys partneriaethau ar bob lefel gydag Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol Cymru, Gwasanaethau Iechyd ac Addysg ymhlith rhai eraill.
Ar lefel awdurdod lleol, mae'r holl gynghorau Cymreig yn dal i ddarparu gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan adnabod a gweithio gyda'r plant y mae cynllun mabwysiadu yn addas iddynt.
Yn rhanbarthol, mae’r holl awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd o fewn pum cydweithrediad rhanbarthol i gynnig ystod o wasanaethau mabwysiadu. Mae gan bob cydweithrediad rhanbarthol gysylltiadau ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, iechyd ac addysg. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn amrywio mewn pob cydweithrediad, ond maent oll yn cynnig swyddogaethau asiantaeth mabwysiadu i blant, recriwtio ac asesu mabwysiadwyr, cynnig cwnsela i rieni genedigol a chyngor i oedolion a fabwysiadwyd. Ar hyn o bryd, mae rhai ohonynt yn cynnig gwasanaethau cymorth mabwysiadu'n uniongyrchol, ond mae hyn yn gyfrifoldeb ar yr awdurdod lleol mewn mannau eraill.
Yn genedlaethol, mae Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a thîm canolog bach, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran yr holl awdurdodau lleol, yn sbarduno gwelliant, cysondeb a chydlynu. Y tîm canolog yw:
Suzanne Griffiths – Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru
Corienne Strange – Pennaeth Polisi, Ymarfer a Chyfathrebu
Wendy Carroll – Rheolwr Busnes a Pherfformiad
Chris Holmquist – Rheolwr Datblygu Cymorth Mabwysiadu
Hannah Jones – Rheolwr Ymarferwyr Cofrestr Mabwysiadu
Ystafell 409, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
Ffôn: 029 2087 3927
E-bost: contact@adoptcymru.com
Ers mis Medi 2015, mae’r tîm canolog wedi rheoli Cofrestr Fabwysiadu Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Nod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw gwella gwasanaethau. Mae ein hadroddiadau’n dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud
Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gwella gwasanaethau cymorth mabwysiadu wrth i ni barhau i weithredu'r 'Fframwaith ar gyfer Cymorth Mabwysiadu' ochr yn ochr â mentrau eraill fel Sefydlogrwydd Cynnar Cymru.
Mae Bwrdd Llywodraethu a Grŵp Ymgynghorol yn goruchwylio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gyffredinol. Ar lefel leol, mae Pwyllgorau Rheoli Rhanbarthol yn goruchwylio’r gwasanaethau rhanbarthol. Mae’r gwasanaeth yn adrodd i Weinidogion Cymru ddwywaith y flwyddyn.
Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau
Mae llais y defnyddiwr gwasanaeth yn hollbwysig; mae gwrando ac ymgysylltu â mabwysiadwyr, darpar fabwysiadwyr, plant a phobl ifanc ac oedolion sy'n mabwysiadu yn parhau i ddylanwadu ar y blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru a'u llunio. Rydym yn falch o'r ffaith ein bod yn gallu parhau i greu a defnyddio cyfleoedd i 'siarad' yn uniongyrchol â'n defnyddwyr gwasanaeth ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud hynny. I gael manylion am sut rydym yn gwneud hyn: Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gwasanaeth mabwysiadu, p’un ai un sy’n berthnasol i’r gorffennol, i wasanaeth cyfredol neu os ydych yn ystyried defnyddio gwasanaeth mabwysiadu yn y dyfodol, defnyddiwch y dolenni uchod i gysylltu â’ch gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol lleol neu asiantaeth wirfoddol.
Hefyd, os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, gallwch ddarganfod mwy drwy edrych ar y tudalennau hyn.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again