Ry’n ni’n dathlu pum mlynedd gyntaf y gwasanaeth gyda lansiad ymgyrch newydd, Y Rhiant Sydd Ynot Ti.

Gan ddefnyddio mabwysiadwyr go iawn, mae’r ymgyrch yn anelu i annog pobl o bob cefndir i ddod yn rhiant trwy fabwysiadu.

Ers 2014, rydyn ni wedi cefnogi mwy na 1,630 o blant yng Nghymru i ddod o hyd i’r teulu cywir iddyn nhw. Mae Y Rhiant Sydd Ynot Ti yn ymgyrch genedlaethol gaiff ei harwain gan fabwysiadwyr o bob oed, cefndir, gallu a chyfeiriadedd rhywiol er mwyn helpu’r gwasanaeth i barhau i lwyddo i baru teuluoedd.

Mae pobl go iawn sydd wedi bod trwy’r broses fabwysiadu yn rhannu eu profiadau - yr hyn yr oedden nhw’n ei feddwl cyn cychwyn a’r hyn y maent wedi ei ddysgu am eu hunain yn ystod y broses - er mwyn chwalu rhai o’r chwedlau sy’n peri i bobl beidio â mabwysiadu.

“Rydym wedi cyflawni cymaint mewn pum mlynedd ac rydym yn ddiolchgar i bob un o’r gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol a gwirfoddol yn ogystal â’n hasiantaethau partner, sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i bobl gaiff eu heffeithio gan fabwysiadu yng Nghymru. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar i’r cannoedd o rieni mabwysiadol sydd wedi camu ymlaen o bob cefndir.

“Ein nod yw defnyddio’r arbenigedd a’r ddealltwriaeth yr ydym wedi eu crynhoi dros y pum mlynedd diwethaf er mwyn cyrraedd hyd yn oed mwy o ddarpar-fabwysiadwyr yng Nghymru a sicrhau y gallwn barhau i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant fydd yn eu helpu i ffynnu.

“Mae ambell i gamsyniad ynghylch pwy all fabwysiadu ond ’does dim o’r fath beth ag ‘un maint i weddu i bawb’. Mae e’ i gyd yn dibynnu ar yr unigolyn. Y pethau pwysicaf y gallan nhw eu cynnig i blentyn yw amser, amynedd, a sicrwydd, yn ogystal â chariad.

“Ein gobaith ni yw, trwy roi sylw i rieni mabwysiadol ddaw o bob mathau o gefndiroedd, yw y gallwn helpu pobl eraill i sylweddoli'r potensial sydd ganddyn nhw i fod yn rhieni gwych a chodi’r ffôn a galw eu hasiantaeth fabwysiadu leol i ddysgu mwy.”

Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwraig Gweithrediadau’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Ry’n ni’n chwilio am fwy o bobl sy’n barod i gyflawni eu potensial i ddod yn rhiant, i gamu ymlaen a siarad gyda’u hasiantaeth leol am fabwysiadu
.

Darganfydda’r rhiant sydd ynot ti.

Siarada gyda ni heddiw.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again