Croeso

Arolwg
Rydym yn awyddus i glywed am eich profiadau o ddefnyddio Link Maker fel rhan o Gofrestr Mabwysiadu Cymru, byddwn yn ddiolchgar os gallwch sbario cwpl o funudau o’ch amser i gwblhau arolwg byr; gellir ei gyrchu o’r ddolen isod.

Bydd yr arolwg ar agor tan 7 Tachwedd.

Gweld yr arolwg yn Gymraeg

Bydd eich atebion yn helpu ni i ddeall pa mor effeithiol y mae Link Maker yn gweithio i fabwysiadwyr a gweithwyr proffesiynol o fewn y Gofrestr Mabwysiadu Cymru. Bydd eich adborth yn caniatau i ni ystyried unrhyw newidiadau neu welliannau sydd eu hangen ar y system, a fydd yn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi.

 

Gwasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru – Covid 19

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogia chadw ein plant a’n teuluoedd yn ddiogel.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau isod

Cliciwch yma​

Rydym yn gweithio i sicrhau bod cyngor a gwybodaeth cymorth mabwysiadu ar gael i ategu'r hyn a allai fod ar gael gan wasanaeth rhanbarthol neu AMG.

Cliciwch yma

Er bod y rhain yn amseroedd anarferol i bawb, rydym yma o hyd i unrhyw rai sydd ar fin dechrau neu sydd wedi dechrau ar eu taith fabwysiadu, dros y ffôn neu e-bost (cliciwch yma).

Gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru

Mae ein staff Asiantaeth Fabwysiadu Gwirfoddol a rhanbarthol yn parhau i ddarparu. Mae mwyafrif y swyddfeydd bellach wedi cau i'r cyhoedd, ond mae staff ar gael dros e-bost, ffôn a thrwy fideo-gynadledda.  Dim ond mewn sefyllfaoedd brys iawn y cynhelir ymweliadau wyneb yn wyneb a chynhelir asesiad risg o'r rhain, o ran y staff, y bobl a'r lleoedd yr ymwelir â hwy, gan ddefnyddio canllawiau iechyd y cyhoedd.

Cofrestr Fabwysiadu Cymru

Ni fydd effaith ar ddefnyddio Cofrestr Mabwysiadu Cymru ond efallai y bydd trafodaethau gyda Gweithwyr Cymdeithasol yn cymryd ychydig yn hirach nag arfer. Byddwch yn amyneddgar tra mae staff yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol. Byddant yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag y bo modd.

 

Efallai y bydd pethau’n cael eu rheoli’n wahanol ac yn cymryd yn hirach yn ystod y cyfnod hwn ond hoffem glywed gennych o hyd.

Os ydych eisiau defnyddio Cofrestr Mabwysiadu Cymru ar-lein dewiswch y blwch ar y chwith isod a rhoi Cofrestr Mabwysiadu Cymru Ar-lein ynddo.  Os ydych yn chwilio am wybodaeth gyffredinol am Gofrestr Mabwysiadu Cymru dewiswch y blwch ar y dde i gael mynediad at dudalennau gwybodaeth Cofrestr Mabwysiadu Cymru.

 

Cofrestr Fabwysiadu Ar-lein Cymru

Online Adoption Register

Mae’r gofrestr fabwysiadu ar-lein newydd ar gael o 4 Mawrth 2019. Mae’r Gwasanaeth Creu Cyswllt yn dod â gofal cymdeithasol plant Cymru at ei gilydd i gynyddu’r dewis o leoliadau sydd ar gael i blant, i wella’r ffordd mae data’n cael ei ddefnyddio ac i roi hwb i gydweithio rhwng awdurdodau lleol a darparwyr.

Cofrestr Fabwysiadu Cymru

Adoption Register Wales

Cofrestr sy’n cysylltu ac sy’n dod o hyd i deuluoedd yw Cofrestr Fabwysiadu Cymru. Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru sy’n ei chynnal, ar ran Llywodraeth Cymru

 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again