Fel yn y blynyddoedd cynt, yr angen i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer rhai o'n plant sydd fwyaf agored i niwed sydd wrth galon digwyddiad eleni. Mae plant sydd wedi bod yn aros am gyfnod hir am deulu mabwysiadol yn flaenoriaeth, ac eleni rydym yn canolbwyntio ar gadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.
Gwnaeth Tony a Jacquie fabwysiadu brodyr “Roedden ni am gael teulu ac yn teimlo mai mabwysiadu oedd y ffordd orau o wneud hynny; cawson ni helpu plant oedd angen teulu."
Beth oedd cael eu mabwysiadu gyda’i gilydd yn golygu i Martin ac Ellie-Rose?
Dywedodd Eileen: “Gall derbyn tri ar yr un pryd fod yn hynod anodd, ond mae wedi rhoi llawenydd mawr i mi.”
P’run ai un sy’n mabwysiadu ydych chi, un sy’n cael ei fabwysiadu, gweithiwr proffesiynol mabwysiadu neu ddim ond eisiau dangos eich cefnogaeth, mae llawer o ffyrdd i chi gymryd rhan yn yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol:
Llwythwch blacard i lawr, tynnwch hunlun neu lun a’i rannu yn ystod yr Wythnos hon
Thema'r wythnos yw brodyr a chwiorydd, felly yn ystod yr wythnos rydym yn gwahodd pawb i rannu lluniau o'u brodyr a'u chwiorydd gan ddefnyddio’r hashnod #CaruBrawd #CaruChwaer
Rhannwch eich stori - ymunwch â'n hyrwyddwyr mabwysiadu
Gofynnwch am fwy o wybodaeth am fabwysiadu, cysylltwch ag asiant.
Anogwch eich cydweithiwr, eich teulu a'ch ffrindiau i gymryd rhan.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again