Mae Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol yn digwydd o Hydref 16 i 22 2017

Fel yn y blynyddoedd cynt, yr angen i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer rhai o'n plant sydd fwyaf agored i niwed sydd wrth galon digwyddiad eleni. Mae plant sydd wedi bod yn aros am gyfnod hir am deulu mabwysiadol yn flaenoriaeth, ac eleni rydym yn canolbwyntio ar gadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.

Gwnaeth Tony a Jacquie fabwysiadu brodyr “Roedden ni am gael teulu ac yn teimlo mai mabwysiadu oedd y ffordd orau o wneud hynny; cawson ni helpu plant oedd angen teulu."

Beth oedd cael eu mabwysiadu gyda’i gilydd yn golygu i Martin ac Ellie-Rose?

Dywedodd Eileen: “Gall derbyn tri ar yr un pryd fod yn hynod anodd, ond mae wedi rhoi llawenydd mawr i mi.”

P’run ai un sy’n mabwysiadu ydych chi, un sy’n cael ei fabwysiadu, gweithiwr proffesiynol mabwysiadu neu ddim ond eisiau dangos eich cefnogaeth, mae llawer o ffyrdd i chi gymryd rhan yn yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol:

Llwythwch blacard i lawr, tynnwch hunlun neu lun a’i rannu yn ystod yr Wythnos hon

Thema'r wythnos yw brodyr a chwiorydd, felly yn ystod yr wythnos rydym yn gwahodd pawb i rannu lluniau o'u brodyr a'u chwiorydd gan ddefnyddio’r hashnod #CaruBrawd #CaruChwaer

Rhannwch eich stori - ymunwch â'n hyrwyddwyr mabwysiadu

Dewch i ddigwyddiad

Gofynnwch am fwy o wybodaeth am fabwysiadu, cysylltwch ag asiant.

Anogwch eich cydweithiwr, eich teulu a'ch ffrindiau i gymryd rhan. 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again