Louise & Adam

Mae Louise ac Adam yn rhieni mabwysiadol i ddau fachgen bach gwych, Jack, 3 oed a George, 8 mis oed. Mae eu taith yn unigryw, gan eu bod yn un o'r teuluoedd cyntaf yng Nghymru i gefnogi plentyn drwy Sefydlogrwydd Cynnar Cymru. Mae Louise ac Adam wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu taith, gan roi cipolwg gwerthfawr ar eu profiadau o SCC fel mabwysiadwyr ail dro.

Darganfyddwch mwy and y story hyn

Emma

"Pan wnes i’r ymholiad cyntaf am fabwysiadu do’n i ddim yn gwybod dim am beth oedd ei angen ar fabwysiadwr, mewn gwirionedd." "Fel rhiant sengl a oedd yn mabwysiadu, ro’n i’n cymryd y byddai’r gwasanaethau cymdeithasol yn poeni am fy sefyllfa ariannol ond doedden nhw ddim o gwbl." "Do’n i ddim yn teimlo bod dim digon ‘da fi neu ‘mod i methu rhoi digon." "Beth sydd angen i chi allu ‘neud yw cynnig cartref diogel a chariadus i blentyn ac os gallwch chi ‘neud hynny, fe gewch chi eich ystyried ar gyfer mabwysiadu."

Darganfyddwch mwy and y story hyn

Chris

"Mae angen i chi roi cariad at gariad, serch, a sylw i blentyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n meithrin y plentyn hwnnw. Nid yw plentyn eisiau pethau materol, mae'r plentyn hwnnw eisiau gwybod, ei fod wedi ei garu ac rydych chi yno i'r plentyn hwnnw, ac i gadw'r plentyn hwnnw'n ddiogel."

Darganfyddwch mwy and y story hyn

David

“Cyn inni ddechrau’r broses fabwysiadu, roeddwn i’n meddwl bod mabwysiadwyr yn rhyw fath o ‘rieni anhygoel’, ond sylweddolais yn fuan nad dyna beth mae’r gwasanaeth yn chwilio amdano. I fod yn fabwysiadwr, mae angen ichi allu darparu’r drefn ddyddiol, y sefydlogrwydd a’r amynedd y mae plentyn eu hangen."

Darganfyddwch mwy and y story hyn

Jamie Baulch

"Doeddwn i erioed yn awyddus i siarad am fod yn blentyn a fabwysiadwyd nes bod yr amser yn iawn i wneud hynny. Nawr rydw i'n hapus i ddweud wrth bawb fy mod i wedi cael magwraeth ardderchog. Rwy'n aeddfetach erbyn hyn ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy mywyd rydw i'n sylweddoli pa mor hudolus a rhyfeddol y mae wedi bod."

Darganfyddwch mwy and y story hyn

Cymryd y cam nesaf

Cewch glywed gan bobl sydd wedi mabwysiadu Podlediad Mabwysiadu
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again