"Rydym am fod yn dadau da a rhoi bywyd gwych i'n mab."

 

Ydych chi'n ofnus neu'n nerfus?

Alan: Ddim o gwbl. Dw i'n edrych ymlaen yn arw! Efallai fy mod i'n naïf, ond dw i'n hapus dros ben! Rydw i wedi mopio'n lân ag e’n barod a dydw i ddim wedi cwrdd ag e eto. Felly os ydw i'n teimlo felly am un ffotograff, alla i ddim dychmygu sut deimlad fydd ei weld.

Rick: Mae'n deimlad od caru rhywun nad ydych wedi cwrdd â nhw eto, ond rydw i'n teimlo fel petawn ni'n disgwyl i fy mab ddod adref. 

Alan: Yr unig wybodaeth sydd gennym yw ei fod yn 20 mis oed, mae e ar y blaen o ran ei holl gerrig milltir ac mae'n beth bach del, mae'n edrych yn union fel fi! 

Rick: Yn rhyfedd iawn, mae'n debyg iawn iddo, Mae gennym lun o Alan yn fachgen bach ac wrth gymharu'r lluniau mae'n rhyfeddol pa mor debyg ydyn nhw. Mae gan y ddau'r un wyneb powld! 

Alan:  Ar un adeg roedd gennym ni ddau neu dri phosibiliad a phan ddaeth ein gweithiwr cymdeithasol a thrafod pethau gyda ni roedden ni'n gwybod mai ef y bydden ni'n dewis. Dywedodd ei bod yn gwybod mai ef y bydden ni'n dewis oherwydd ei fod yn gwenu arna i fel ti.

 

Sut brofiad oedd y broses i chi?

Alan: Roedden ni wastad yn gwybod ein bod ni am gael plant. Yn amlwg roedden ni'n gwybod na allen ni genhedlu plant felly roedden ni bob amser yn trafod yr opsiynau. Am flynyddoedd, doedd dim modd i bobl hoyw fabwysiadu. Roedden ni'n meddwl efallai taw dim ond plant hŷn fydden ni'n cael eu cynnig, neu blant a fyddai efallai angen ychydig mwy o ofal ac y byddai'r babanod i gyd yn cael eu rhoi i gyplau strêt. Ond nid felly'r oedd hi. 

Rick: Wnes i erioed deimlo fy mod i'n cael fy asesu drwy'r holl broses, roedd e'n teimlo fel petai rhywun yn galw heibio ac yn dod i'n hadnabod ni. Maen nhw eisiau rhieni mabwysiadol! Y rheswm dros yr holl gwestiynau yw eich bod chi wedi'ch paratoi'n drylwyr am y sefyllfaoedd sydd i ddod. Rydw i'n credu y dylai pob rhiant orfod mynd trwy'r broses hon, oherwydd mae'n gwneud i chi feddwl yn galed am ba fath o riant rydych chi am fod. Mae wedi gwneud i ni feddwl am bethau ymlaen llaw, yn hytrach na cheisio delio â phethau yn y fan a'r lle.


Sut ydych chi'n credu y bydd plant eraill yn ymateb i ddau dad?

Rick: Dydw i ddim yn meddwl fod bod yn hoyw’n annormal i blant y dyddiau hyn. Fe glywodd fy chwaer fy nai yn siarad ag un o'i ffrindiau am ffotograff o'n priodas. Dydy e'n golygu dim byd iddyn nhw, dim ond fod ei wncwl wedi priodi dyn arall. 

Alan: Mae plant yn tyfu i fyny yn y byd y ffordd ag y mae. Felly er y gallai synnu rhieni wrth gât yr ysgol, bydd y plant yn ei dderbyn. I ni mae dwy ochr i fabwysiadu. Mae'n gyfle i ni gael y teulu yr oeddem wastad ei eisiau ,a rhoi bywyd iddo na fyddai wedi'i gael oni bai ein bod ni wedi'i fabwysiadu.

 

Dywedodd ein gweithiwr cymdeithasol ei bod yn gwybod y bydden ni'n ei ddewis e oherwydd bod ganddo wên debyg iawn i ni.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again